aEseciel 26:1—28:19; Joel 3:4-8; Amos 1:9-10; Sechareia 9:1-4; Mathew 11:21-22; Luc 10:13-14

Isaiah 23

Cosbi Tyrus

1Neges am Tyrus: a

Udwch, longau masnach Tarshish!
23:1,14 llongau masnach Tarshish Porthladd yn Sbaen. Mae'n debyg fod "llongau Tarshish" yn cyfeirio at longau masnach mawr oedd yn croesi'r moroedd.

Does dim porthladd i fynd adre iddo
– achos mae wedi ei ddryllio!
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi o Cyprus.
2Galarwch, chi sy'n byw ar yr arfordir,
chi fasnachwyr Sidon.
Maen nhw wedi croesi'r môr i'w chyflenwi;
3croesi'r dyfroedd mawrion
gyda had o Sihor a chynhaeaf yr Afon Nil;
dyna oedd ei henillion –
hi oedd marchnad y gwledydd.
4Cywilydd arnat ti, Sidon!
achos mae'r môr – y gaer ddiogel honno – wedi dweud,
“Fi ydy'r un sydd heb ddiodde poenau
wrth gael plant.
Dw i heb fagu bechgyn ifanc
na merched ifanc!”
5Pan fydd yr Aifft yn clywed am y peth
byddan nhw'n gwingo mewn poen
wrth glywed am Tyrus.
6Croeswch drosodd i Tarshish –
Udwch, chi sy'n byw ar yr arfordir!
7Ai dyma'r ddinas gawsoch chi'r fath firi ynddi? –
y ddinas sydd a hanes mor hen iddi?
Ai hon deithiodd mor bell i fasnachu?
8Pwy drefnodd i hyn ddigwydd i Tyrus,
y ddinas oedd yn gwisgo coron,
a'i masnachwyr yn dywysogion
ac yn bobl mor bwysig?
9Yr Arglwydd holl-bwerus drefnodd y peth –
i ddirmygu ei balchder yn ei harddwch,
a chodi cywilydd ar y bobl bwysig i gyd.
10Hwyliwch adre bobl Tarshish,
i drin eich tir fel y rhai sy'n ffermio wrth yr Afon Nil;
does dim harbwr i chi yma bellach.
11Pan gododd yr Arglwydd ei law dros y môr
gwnaeth i deyrnasoedd grynu mewn ofn!
Yr Arglwydd roddodd orchymyn
i ddinistrio trefi caerog Canaan.
12Dwedodd,
“Dyna ddigon o dy rialtwch
ferch Sidon, sydd wedi ei gorthrymu.”
Dos! cod, a chroesa drosodd i Cyprus,
Ond fyddi di ddim yn cael llonydd yno chwaith!
13Edrychwch ar wlad Babilonia –
y bobl sydd wedi peidio â bod!
Rhoddodd Asyria nhw i'r anifeiliaid gwylltion.
Codi tyrau i warchae arni,
ysbeilio ei phlastai a'i throi yn adfeilion.
14Udwch, longau masnach Tarshish,
achos mae eich caer ddiogel wedi ei dinistrio!

15Bryd hynny bydd Tyrus yn cael ei anghofio am saith deg mlynedd, sef hyd bywyd brenin. Ond ar ôl hynny bydd Tyrus fel y gân honno am y butain:

16Cymer delyn, crwydra'r ddinas,
butain a anghofiwyd;
Cân dy alaw unwaith eto,
i wneud i bobl gofio.

17Achos ar ôl saith deg mlynedd, bydd yr Arglwydd yn adfer Tyrus eto; bydd yn mynd yn ôl i werthu ei hun fel putain, a denu holl wledydd y byd i wneud busnes gyda hi. 18Ond bydd ei helw a'i henillion yn cael eu cysegru i'r Arglwydd. Fydd e ddim yn cael ei gadw a'i storio; bydd ei helw yn mynd i'r rhai sy'n agos at yr Arglwydd, iddyn nhw gael digonedd o fwyd, a'r dillad gorau.

Copyright information for CYM